Cwestiynau Cyffredin am yr Her Bumpunt




Oes gennych chi gwestiynau am sut mae’r Her Bumpunt yn gweithio a sut gallwch gymryd rhan? Rhoddir isod atebion i’r cwestiynau a ofynnir i ni amlaf am yr Her Bumpunt a’r Her Bumpunt DIY.

 

Cymryd rhan yn yr Her Bumpunt

Pwy sy’n gallu cymryd rhan yn yr Her Bumpunt?

Gall unrhyw blentyn 5 - 11 oed gymryd rhan, a bydd angen i’r holl gyfranogwyr gael eu cofrestru ar gyfer yr her gan sefydliad/oedolyn.

Pryd bydd yr Her Bumpunt nesaf yn cael ei chynnal?
Bydd her eleni yn cael ei chynnal rhwng 3 a 28 Mehefin 2024.

A all plant weithio ar eu pen eu hunain yn ogystal ag mewn tîm?
Gallant, wrth gwrs! Mae croeso i blant gymryd rhan yn yr Her Bumpunt fel unigolyn neu fel rhan o dîm.
Awgrymwn fod timau'n cynnwys rhwng dau ac wyth o gyfranogwyr - weithiau, gall timau sy'n cynnwys mwy nag wyth o gyfranogwyr achosi i blant ymddieithrio yn y grŵp.

Pa gynhyrchion a gwasanaethau y gall y cyfranogwyr eu gwerthu?
Gwiriwch y Telerau ac Amodau am arweiniad ar gynhyrchion a gwasanaethau y gellir eu masnachu o dan yswiriant Young Enterprise. Mae'n rhaid i sefydliadau sicrhau bod ganddynt yswiriant priodol ar waith ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau nad ydynt yn dod o dan bolisi yswiriant Young Enterprise.

Cyllid ar gyfer yr Her Bumpunt

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng hunangyllido a gofyn am gyllid?
Yn ystod y broses gofrestru, gofynnir i chi a hoffech hunangyllido neu gyflwyno cais am gyllid yr Her Bumpunt:
- Mae hunangyllido'n golygu y bydd eich sefydliad yn darparu'r £5 i'ch plant ei ddefnyddio ar ddechrau'r her.
- Mae gofyn am gyllid yn golygu y byddwch yn llenwi ffurflen ar-lein syml sy'n nodi faint rydych yn gofyn i Fanc yr Her Bumpunt amdano. Rhoddir gwybod i chi a fu'ch cais yn llwyddiannus. Swm cyfyngedig o gyllid sydd ar gael, felly cyflwynwch gais yn gynnar!

Sut gallaf wneud cais am gyllid ar gyfer fy ysgol?
Bydd y ffurflen gais am gyllid yn agor ym mis Ebrill 2024 a bydd ar gael ar y porth athrawon, ar ôl cofrestru ar y platfform.

Faint o gyllid y gellir gwneud cais amdano?
Mae lleiafswm o £50 ac uchafswm o £250 o gyllid yr Her Bumpunt ar gael fesul cofrestriad.
Fe allwch chi benderfynu sut i rannu'r arian hwn ymhlith y cyfranogwyr; fe allech ddewis cynnig £5 fesul plentyn neu £5 fesul tîm.

Sut mae ceisiadau am gyllid yn cael eu hasesu?
Mae cyllid yr Her Bumpunt yn gyfyngedig a chaiff ceisiadau eu hasesu ar sail y cyntaf i'r felin.

A oes modd "ychwanegu" at gyllid?
Os bydd eich cais am gyllid ar gyfer yr Her Bumpunt yn llwyddiannus ond mae arnoch angen mwy na'r uchafswm (£250 fesul cofrestriad), bydd angen i'ch sefydliad ddarparu unrhyw gyllid ychwanegol sy'n angenrheidiol ei hun.

Sut mae cyllid gan Young Enterprise yn cael ei dderbyn?
Os bydd eich cais am gyllid yn llwyddiannus, caiff ei drosglwyddo i’ch ysgol yn union cyn i'r Her ddechrau. Byddwn yn anfon cadarnhad atoch pan fydd y trosglwyddiad electronig yn cael ei anfon i'ch cyfrif banc enwebedig. Bydd angen i'r arian hwn gael ei roi i'ch cyfranogwyr.

 

Ernes myfyrwyr, elw ac ad-dalu

Faint o amser a gaiff plant i wneud elw gyda’r arian a roddir iddynt yn ernes?
Rhoddir her i’r plant wneud cymaint o elw â phosibl yn ystod pedair wythnos yr her.

Sut mae plant yn derbyn eu £5?
Mae athrawon yn gyfrifol am ddosbarthu’r £5 i’r cyfranogwyr a goruchwylio’r holl weithgareddau sy’n gysylltiedig â’r her. Peidiwch â dosbarthu unrhyw arian cyn i’r Her Bumpunt ddechrau.

A fydd rhaid i’r cyfranogwyr ad-dalu’r £5?
Bydd, ac os bydd y cyfranogwyr yn gwneud elw, gofynnir iddynt gyfrannu 50c arall fesul £5 a roddwyd yn ernes (rhodd waddol) i'n helpu ni i gynnal Banc yr Her Bumpunt.

Beth os na all y cyfranogwyr ad-dalu'r £5?
Os nad yw cyfranogwyr yn gallu ad-dalu'r £5 llawn, dylent ddychwelyd £4 o leiaf. Bydd eich sefydliad yn gyfrifol am gasglu'r ernes a'r rhodd waddol gan y cyfranogwyr ar ôl cwblhau'r Her. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Nhelerau ac Amodau llawn yr Her Bumpunt.

Beth fydd yn digwydd i'r elw a wneir o'r £5?
Eich plant sydd i benderfynu sut yr hoffent roi neu wario eu helw.
Bydd llawer o dimau'n dewis rhoi eu helw i gyd neu ran ohono i elusennau lleol a chenedlaethol, neu i achos lleol yn eu cymuned neu ysgol.

 

Cymorth ar gyfer yr Her Bumpunt

Pa gymorth sydd ar gael yn ystod yr Her Bumpunt?
Mae Tîm yr Her Bumpunt wedi ymrwymo i helpu ysgolion drwy gydol yr her. Os bydd arnoch angen cymorth ar unrhyw adeg, gallwch gysylltu â'r tîm yn uniongyrchol drwy anfon neges e-bost at fiver@y-e.org.uk

A oes adnoddau ar gael i helpu i baratoi ar gyfer yr Her Bumpunt?
Mae llawer o ddeunyddiau ar gael i’w defnyddio cyn ac yn ystod yr her, gan gynnwys adnoddau parod i’w haddysgu a manylion cystadlaethau i’ch helpu i gynllunio a chyflwyno pedair wythnos yr her.
Mae'r adnoddau hyn ar gael ar blatfform yr Her Bumpunt – pan fydd eich cofrestriad wedi’i gadarnhau, anfonir dolen atoch i’r platfform hwn a gofynnir i chi ddarparu manylion mewngofnodi.

 

Cystadlaethau’r Her Bumpunt

Sylwch fod manylion llawn cystadlaethau wythnosol a’r gystadleuaeth genedlaethol ar gael ar y platfform.

Sut bydd ceisiadau ar gyfer cystadlaethau'n cyrraedd y rhestr fer?
Bydd panel mewnol yn llunio rhestr fer o geisiadau, ac yna bydd panel allanol o feirniaid yn penderfynu ar yr enillwyr ar gyfer pob categori yn y gystadleuaeth.

Sawl cais y gall pob sefydliad ei gyflwyno i gystadlaethau?
Gall pob sefydliad gyflwyno uchafswm o bum cais.

Sut gellir cyflwyno ceisiadau ar gyfer cystadlaethau?
Mae’n rhaid i geisiadau ar gyfer cystadlaethau gael eu lanlwytho trwy blatfform yr Her Bumpunt, gan ddefnyddio’r fformat ffeil cywir. Bydd manylion llawn ar gael pan fydd sefydliad wedi cwblhau’r broses gofrestru.

 

Yr Her Bumpunt DIY

Mae’r Her Bumpunt DIY yn ffordd ddifyr i blant ddychmygu pa fusnes y gallent ei greu gyda phapur £5 gartref neu yn yr ysgol, ac mae bellach ar gael i’w chynnal ar hyd y flwyddyn.

Yn ystod y prosiect, bydd plant yn defnyddio’r llyfr gwaith i gwblhau gweithgareddau fel creu enw busnes a logo, cynnal ymchwil i’r farchnad, cynllunio eu cynnyrch/gwasanaeth a gorffen trwy ysgrifennu a rhoi cyflwyniad gwerthu i rywun yn eu cartref.

Gellir defnyddio’r Her Bumpunt DIY fel prosiect annibynnol neu fel ffordd i fyfyrwyr ysgogi eu syniadau busnes fel y byddant yn barod ar gyfer yr Her Bumpunt ym mis Mehefin.

 

Mae rhagor o fanylion am yr Her Bumpunt yn y 'Telerau ac Amodau'

Telerau ac Amodau'r Her Bumpunt