Rydyn ni yma i helpu plant i ddatblygu ffordd fentrus o feddwl!

Mae agweddau plant at arian yn cael eu datblygu erbyn iddyn nhw gyrraedd saith oed, felly dyna pam rydyn ni’n credu y dylai pob plentyn gael cyfle i ddatblygu ffordd fentrus o feddwl a sgiliau rheoli arian pan fyddan nhw’n ifanc.

Rhaglen fenter genedlaethol am ddim yw’r Her Bumpunt sy’n rhoi profiad ymarferol i blant, 5 i 11 oed, o sut beth yw bod yn entrepreneur, gan roi bywyd i’r hyn a ddysgwyd mewn pynciau a chefnogi datblygiad galluoedd ariannol a menter.

Rydyn ni eisiau sicrhau bod pob athro a rhiant yn teimlo bod ganddyn nhw’r gallu a’r hyder i ddatgloi potensial entrepreneuriaid ifanc, felly rydyn ni’n darparu adnoddau parod i’w haddysgu y gellir eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth a gartref.

Ers i’r rhaglen gael ei chreu yn 2014, mae dros 300,000 o bobl ifanc wedi cymryd rhan ynddi o gannoedd o ysgolion ar draws y Deyrnas Unedig.

  • "Cafodd yr Her Bumpunt 'Glod Mawr' yng nghategori Adnoddau Am Ddim Gwobrau Teach Primary 2022"

Mae’r Her Bumpunt wedi bod yn fenter wych – mae’r plant wedi cydweithio a threfnu eu hunain yn dda iawn. Roedden nhw i gyd wedi adennill costau neu wneud elw mawr! Menter wych y byddwn ni’n cymryd rhan ynddi eto y flwyddyn nesaf.

Athro’r Her Bumpunt

Cynyddodd hyder y merched sydd fel arfer yn gyndyn i siarad ac ymuno â thrafodaeth ddosbarth, ac fe gymeron nhw ran yn fwy amlwg o lawer nag arfer.

Athro’r Her Bumpunt

Rydyn ni’n dwlu arni. Dwi’n ei hargymell yn gryf ac yn rhyfeddu nad yw’r rhan fwyaf o ysgolion yn ei gwneud. Nid yw’n gofyn am lawer o ymdrech.

Athro’r Her Bumpunt
Cefnogir yn falch gan Gymdeithas Adeiladu Principality

Rydyn ni’n falch iawn o gael Cymdeithas Adeiladu Principality yn bartner ar gyfer yr Her Bumpunt yng Nghymru a Lloegr. Rydyn ni wedi bod yn cydweithio ers 2020 ac wedi cadarnhau partneriaeth tair blynedd newydd o 2023 ymlaen a fydd yn ein gweld yn cydweithio i sicrhau bod mwy o ysgolion a disgyblion yn cael y cyfle i ennill sgiliau entrepreneuraidd gwerthfawr.

Vicky Wales

Prif Swyddog Cwsmeriaid
Cymdeithas Adeiladu Principality

Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi ymuno ag Young Enterprise i gyflwyno’r Her Bumpunt i blant a phobl ifanc ledled Cymru a Lloegr. Rydyn ni’n frwd ynglŷn â helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau bywyd, sy’n cynnwys cefnogi ysgolion gweithgar gydag addysg ariannol a gweithgareddau seiliedig ar yrfaoedd. Bydd ein hymrwymiad i’r her hon yn ystod y tair blynedd nesaf yn golygu y gallwn barhau i ddatblygu’r prosiect a’r bartneriaeth, ac rydyn ni’n awyddus iawn i weld y canlyniadau.

Sharon Davies

Prif Weithredwr
Young Enterprise

Mae’r Her Bumpunt yn parhau i roi cyfle gwych i bobl ifanc gyflwyno a datblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn para am oes. Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi ffurfio partneriaeth â’r Principality am dair blynedd i gynnig y rhaglen hon i bobl ifanc ledled Cymru a Lloegr, gan helpu i gefnogi datblygiad sgiliau bywyd gwerthfawr mewn ffordd ddifyr a diddorol.

Ynglŷn ag Young Enterprise

Rhaglen gan yr elusen genedlaethol Young Enterprise yw’r Her Bumpunt. Ers 1962, mae Young Enterprise wedi gweithio gyda’r sectorau busnes ac addysg i ymgysylltu â dros bedair miliwn o blant. Credwn yn angerddol mewn grym ‘dysgu trwy wneud’ a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud ac y mae’n parhau i’w wneud i fywydau, dyfodol ac uchelgeisiau plant.
www.young-enterprise.org.uk