Chwilio am gam cyntaf difyr i fyd busnes y gellir ei gyflwyno gan athrawon neu ei arwain gan rieni?
Yr Her Bumpunt DIY yw'r fersiwn ddamcaniaethol o'r Her Bumpunt sy'n caniatáu i blant ddychmygu pa fusnes y gallent ei greu gyda £5 yn unig. Mae'r prosiect bach hwn yn defnyddio elfennau craidd yr Her Bumpunt i ysbrydoli'ch plant i ddysgu, datblygu a thyfu eu sgiliau entrepreneuraidd gartref neu yn yr ysgol.
Mae'r Her Bumpunt DIY ar gael i'w chyflwyno ar hyd y flwyddyn, yn unol ag amserlen a benderfynir gan yr ysgol neu'r rhiant sy'n cynnal y prosiect. Mae hyn yn caniatáu i blant o wahanol alluoedd weithio ar eu cyflymder eu hunain a neilltuo cymaint o amser ag y mae ei angen arnynt i bob cam. Gellir ei ddefnyddio fel prosiect annibynnol ar draws yr ysgol neu fel ffordd i fyfyrwyr ysgogi eu syniadau busnes, fel y byddant yn barod ar gyfer yr Her Bumpunt.
Yn ystod y prosiect, bydd y plant yn defnyddio'r llyfr gwaith i gwblhau gweithgareddau fel creu enw busnes a logo, cynnal ymchwil i'r farchnad a chynllunio eu cynnyrch neu wasanaeth. Byddant yn gorffen trwy ysgrifennu a rhoi cyflwyniad gwerthu i rywun yn eu cartref neu ystafell ddosbarth.
Ar gyfer rhieni sy'n goruchwylio neu'n cyflwyno'r Her Bumpunt DIY, mae gennym ni ddalen Awgrymiadau Da i Rieni sy'n cynnig rhai awgrymiadau ar gyfer sut i gynnal diddordeb eich plant a sicrhau eu bod yn cael hwyl drwy gydol y prosiect.
Ar ddiwedd y llyfr gwaith, gall y plant ddefnyddio Rhestr Wirio'r Her Bumpunt DIY i wneud yn siŵr eu bod wedi cwblhau popeth.
Pan fyddant wedi gwneud hynny, gallant ychwanegu eu henw at ein Tystysgrif Her Bumpunt DIY sy'n dathlu eu cyflawniad ac yn rhestru'r sgiliau maen nhw wedi helpu i'w datblygu ar hyd y prosiect.
Pan fydd y cyfranogwyr wedi cwblhau'r Her Bumpunt DIY, hoffem glywed eich barn am effaith y prosiect. Gofynnir i chi neilltuo ychydig funudau i gwblhau ein harolwg.