Yr ail gam yw Ymchwiliwch Iddo!
Bydd y plant yn cynnal ymchwil y farchnad, wedi'i harwain gan gwestiynau enghreifftiol, i gael gwybod barn eu cwsmeriaid am eu cynnyrch neu wasanaeth.
Bydd cynnal ymchwil y farchnad yn taflu goleuni ar y syniad busnes a phwy fydd eu cwsmeriaid. Bydd y plant yn cael gwybod a fydd pobl yn prynu eu cynnyrch neu wasanaeth ac a oes angen ei wella neu ei newid ar gam cynnar o'r busnes, gan ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a datrys problemau.
Mae'n rhaid i'r gwaith ymchwil gael ei gwblhau dan oruchwyliaeth athro/athrawes, rhiant neu ofalwr, a gellir ei gynnal wyneb yn wyneb neu dros y ffôn neu drwy e-bost gyda phobl y mae'r plant yn eu hadnabod.