Gofynnwch i dimau neu blant sy'n gweithio'n annibynnol ddychmygu eu bod ar y rhaglen Dragons' Den. Sut bydden nhw'n perswadio'r Dreigiau i fuddsoddi yn eu cynnyrch neu wasanaeth?
Bydd angen iddynt baratoi 'Cyflwyniad Ennyn Diddordeb' 60 eiliad sy'n esbonio nodweddion allweddol a buddion eu cynnyrch neu wasanaeth.
Mae gan ddisgyblion bythefnos (ar draws ail a thrydedd wythnos yr her) i gynllunio, ysgrifennu a chofnodi eu cyflwyniad gwerthu. Bydd y Gystadleuaeth Cyflwyniad Gwerthu yn agor pan fydd yr her yn dechrau ac fe ddaw i ben ddydd Sul 23 Mehefin 2024 am 12am, ar ddiwedd trydedd wythnos yr her.